Croeso i Sianel 62

Gwobr i Sianel62!

Enillodd ffilm, a gynhyrchwyd yn arbennig i Sianel 62, wobr yng ngŵyl ffilm Bae Caerfyrddin nos Sul.

Cafodd y rhaglen ddogfen am Meic Stevens yn cynhyrchu record i Blaidd yn stiwdio Richard Dunn (cyn-allweddellwr Van Morrison, Geraint Jarman ac eraill) ei ffilmio yn Llandaf, Caerdydd.

Wrth ymateb i lwyddiant y sianel, dywedodd Greg Bevan:

“”Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Kelvin Guy a threfnwyr yr ŵyl am ddewis ‘Ma Fe Gyd yn Wir’ am y wobr gyntaf yng nghategori ffilm fer orau yn y Gymraeg. Mae’r wobr yn cydnabod holl waith a chreadigrwydd gwirfoddolwyr Sianel62 ers ein lansiad ym mis Chwefror blwyddyn ddiwethaf. Ond yn fwy na hynny, hoffwn ddiolch yn benodol i Ŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin am gynnig llwyfan holl bwysig i ffilmiau gwreiddiol yn y Gymraeg”.

“Mae’r ffilm a’i llwyddiant yn dangos cymaint y mae’n bosibl ei gyflawni gan wirfoddolwyr gydag offer rhad. Mae gan bawb, gyda’r camerâu ar eu ffonau symudol, y cyfle i greu deunydd o safon a chyfrannu at ein sianel.”

Gellir gwylio’r ffilm ar Vimeo neu ar Youtube (gyda is-deitlau Saesneg) isod:

FIDEOS NEWYDD!!!

‘Safbwyntiau’ – Cerddorion Cymru a BBC Radio Cymru

Dyma rhai o artistiaid Cymru gyda’i safbwyntiau ar yr anghydfod presennol rhwng Eos a’r BBC. Mewn sefyllfa mor gymhleth, mae sawl bersbectif yn tueddu o gael ei hanwybyddu neu ei anghofio yn y cyfryngau traddodiadol. Bwriad ‘Safbwyntiau’ yw i gynnig llwyfan i ‘leisiau’ amgen a phersbectifau personol. Byddwn yn ychwanegu mwy o safbwyntiau i’r wefan trwy gydol yr anghydfod ac fe wahoddir holl artistiaid Cymru i gymryd mantais o’r cyfle trwy ffilmio eu teimladau personol a’u hafon i greg@cymdeithas.org.

Ewch i wefan Y Gynghrair am fwy o wybodaeth a chefndir i’r ddadl.

Cai O’Marah (Radio Rhydd)

Phil Lee Bran (Gwibdaith Hen Fran/Twmffat)

Angharad Tomos (Awdures)

Gai Toms

Jamie Bevan (Y Gweddillion)

Ceri Cunnigton (Twmffat/Anweledig)

Twlc

Sam James (Blaidd/Poppies)

Gwylio mwy o fideos Sianel62…

Mae’r wefan wrthi yn cael ei ddatblygu. Cysylltwch gyda ni os gallwch chi fod o gymorth.

Sianel62 - Sianel 62