Hanner Cant: Wyt ti’n clywed y sîn?

Hanner Cant: Wyt ti’n clywed y sîn? – yn ystod penwythnos gig mawr Hanner Cant, fe ddosbarthodd Sianel62 llwyth o gamerâu bach i’r gynulleidfa er mwyn ffilmio eu profiadau personol o’r ŵyl hanesyddol. Dyma’r canlyniad. Disgwylia wynebau cyfarwydd, enwogion yr SRG, nosweithiau hwyr, pobl feddw, sglodion, mwd a lot o falu cachu! Rhybydd: iaith gref!

Rhan 1: Dydd Gwener

Rhan 2: Dydd Sadwrn

 

3 o sylwadau am “Hanner Cant: Wyt ti’n clywed y sîn?

  1. Os gwneud un arall yna da o beth faddyi cael ysgolion/prifysgolion/colegau AB yn rhan ohono fel ma Sioned yn deud. Ma ganddyn nhw’r gallu i gyrraedd at bobol sydd ddim efallai’n gweld enghreifftiau o sdwff Cymraeg ar-lein yn aml iawn. Nhw sydd hefyd am fod efo amser sbe2r i wneud sdwff. Ar y llaw arall, pwy sydd am fod isio gwneud cynnwys ar-lein Cymraeg os mae’n rhan o aseiniad? Turnoff. Ma’n falans annodd. Ella na pobol fel Galeri, Arad Goch, yr Urdd sydd yn gweithio efo pobol ifanc i wneud pethau creadigol yn barod sydd angen cael yn bartneriaid’? Er mwyn gwneud hynny, byddai angen cynllunio dipyn o flaen llaw, a chael gwefan sydd yn rhoi adnoddau gwell i bobol ar beth i wneud a sut i’w wneud o. Ma hwnna’n swnio fel job llawn amser i rywun cofiwch! Ma gweithdai go iawn hefyd yn help o ran cael dangos i bobol sut ma gwneud rwbath. Ma hynny eto yn intensif iawn. Oedd Cymdeithas yr Iaith yn arfer cynnal Ysgol Basg i bobol ifanc ddod at ei gilydd i ddysgu am ymgyrchu a phob math o bethau. Dwi’n credu bod hwnna’n syniad eitha diddorol. Ella sa’n rwbath sa’r Urdd yn gallu gwneud. Eto mae hyn i gyd yn uchelgeisiol a falle tu hwnt i’r sgf4p o be allwn ni gyfrannu fel unigolion prysur. Bosib taw jest trio cadw fo’n syml fydda’r ateb gorau a gweld os di’r sylw llynedd yn cael dylanwad ar eleni.O ran cyrhaeddiad, dwi’n meddwl y gwnaeth y diwrnod gyrraedd bron iawn pob cyfrwng poblogaidd yng Nghymru mewn ffordd eitha llwyddiannus. Efallai na throswyd y sylw hynny mewn i weithredoedd, ond dwi’n falch iawn o’r darnau bach ddaeth drwodd. Does dim drwg byth mewn anfon datganiad i’r wasg allan a gweld os wnaiff pobol ei argraffu. Popeth fel’na’n helpu i ddod e2 thraffig drwodd os dim byd arall (neu ydi o?). Mi gymrodd y diwrnod ystyr cwbl wahanol i lot o bobol hefyd. Doedd diwrnod Pethau Bychain ddim jest am wneud rhywbeth ar-lein yn y Gymraeg. I rai pobol roedd o’n gyfle i fynegi eu defnydd o’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd. I fi mae hynny’n dangos angen gan bobol am ddiwrnod sydd efo ystyr ehangach ac sydd ddim yn ddydd Gwyl Dewi. Y cwestiwn felly ydi, wyt ti isio agor sgf4p y peth allan ymhellach? Fy marn bersonol i ydi bod honno ddim yn job i griw PB ond i wleidyddion ac ati sydd efo’r gallu ac arian i wthio rwbath felna mlaen. Diwrnod Dathlu’r Gymraeg gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg ella? Gallith PB fod yn rhywbeth ar-lein yn unig wedyn efallai. Dwi’n cytuno bod un diwrnod yn addas. Mae’n well ei gadw’n arbennig.

  2. Hysbysiad cyfeirio: Dwyreinioldeb a fi | Blog Carl Morris

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *