Sianel 62 / Darllediad Mis Medi / ar-alw

DARLLEDIAD LLAWN:

I’R GAD: Recordiad o’r ddrama ‘I’r Gad’ gan Cwmni Bach ar faes yr Eisteddfod. Sioe fywiog, lawn hiwmor yn adrodd hanes brwydr yr iaith – fyny mastiau, lawr mewn celloedd, arwyr, dihirod, caneuon a ffilm. Ysgrifennwyd gan Angharad Tomos, Bryn Fon ac Anna Fon.

CARCHAR DROS YR IAITH: Rhyddhau Jamie. Fideo fer emosiynol gan Edwyn ap Harri a Greg Bevan.

TAN ORMES: Crynodeb o gynhadledd Cymdeithas yr Iaith – Ymgyrchu tros Ieithoedd Tan Ormes gan Rhodri ap Dyfrig.

HYSBYSBEB HEDDWCH: Gwrthodwyd i roi caniatâd i ddarlledu hysbyseb dros heddwch gan Gymdeithas y Cymod ar S4C gan gwmni Clearcast. Roedd Sianel62 yn fwy na hapus i’w ddarlledu.

HEDDYCHIAETH: Cyfweliad gyda Guto Prys ap Gwynfor. Gan Mererid Hopwood a Tudur Dylan.

Y PAPUR GWYRDD: Cyfweliad gyda Hywel Davies

LLAIS YR ANDES: Ffilm ddogfen fer gan Llinos Griffin a gafodd ei ffilmio ar odrau’r Andes ac yn edrych ar ymdrechion pobl weithgar Trevelin wrth iddynt geisio gadw’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn fyw.

DIOLCHIADAU’R DYFODOL: Cerdd gan Jenny Henn a ysbrydolwyd gan daith dan-ddaear yn y Pwll Mawr, Blaenafon. Adlewyrchir emosiwn ei cherdd gan gyfres o luniau o archif Amgueddfa Lofaol Cymru

Y RWTCH: Cân ecsgliwsif gan Y Rwtch. Ail mewn cyfres o sesiynau byw.

Sianel62 - Sianel 62

Un sylw am “Sianel 62 / Darllediad Mis Medi / ar-alw

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *