Sianel 62 ar ei newydd wedd!!!

Deunydd Cyfoes Amserol

O hyn ymlaen, bydd Sianel 62 yn rhyddhau  ffilmiau a rhaglenni i’r byd yr eiliad mae nhw’n barod. Yn hytrach nag un darllediad byw yn fisol bydd deunydd newydd ar gael yn fwy aml ac amserol!

Ailwampiad!!

Hefyd, dros yr wythnosau nesaf bydd y wefan yn cael ei ailwampio – byddwn yn gwella eich profiad o wylio deunydd newydd, symleiddio’r broses o archwilio dros 150 o eitemau yn ein archif, ac ehangu’r cyfleoedd i ryngweithio gyda’n gilydd!

Gwahoddiad i gynhyrchwyr – chi!!!

Rydym dal i gredu’n gryf mewn cynnig llwyfan i leisiau amgen a phobl newydd, felly cysyllta i gynnig eitem, syniad, amser, offer, bwyd, llety neu ysbrydoliaeth!

Byddwn yn canolbwyntio ar achlysuron a digwyddiadau penodol a byddwn yn sicrhau ffilmiau a rhaglenni o’r safon uchaf bosib. Cofia felly bod camerâu syml, meics bach a gliniaduron golygu gwych ar gael i’w benthyg. I drefnu eu benthyg cysyllta a: Osian (gogledd@cymdeithas.org / 01286 662908 neu Jamie (jamie@cymdeithas.org / 02920 486469)

Mae ‘na ddatblygiadau cyffrous eraill ar y gweill hefyd, felly NAWR yw’r amser i ymuno gyda ni!!! I drafod syniad neu i ddysgu mwy cysyllta a greg@cymdeithas.org

Diolch i’r cannoedd sydd wedi cyfrannu a’r miloedd sydd wedi gwylio’r sianel yn y 9 mis gyntaf – gwelwn ni chi yn fuan ar yr ochr arall!!!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *